Song of Solomon 4

Y cariad: 1O, rwyt mor hardd f'anwylyd!
O, rwyt mor hardd!
Mae dy lygaid fel colomennod
y tu ôl i'r fêl.
Mae dy wallt du yn llifo fel praidd o eifr
yn dod i lawr o fynydd Gilead.
2Mae dy ddannedd yn wyn
fel rhes o ddefaid newydd eu cneifio a'u golchi.
Maen nhw i gyd yn berffaith
4:2 i gyd yn berffaith Hebraeg, “Mae gan bob un ei efaill”
;
does dim un ar goll.
3Mae dy wefusau fel edau goch,
a'th geg mor siapus.
Tu ôl i'r fêl mae dy fochau
a'u gwrid fel pomgranadau.
4Mae dy wddf fel tŵr Dafydd
a'r rhesi o gerrig o'i gwmpas;
mil o darianau yn hongian arno,
fel arfau milwyr arwrol.
5Mae dy fronnau yn berffaith
fel dwy gasél ifanc, efeilliaid
yn pori ymysg y lilïau.
6Rhaid i mi fynd a dringo
mynydd myrr a bryn thus,
ac aros yno hyd nes iddi wawrio
ac i gysgodion y nos ddiflannu. b
7Mae popeth amdanat mor hardd f'anwylyd!
Ti'n berffaith!
8Tyrd gyda mi o Libanus, fy nghariad,
tyrd gyda mi o fryniau Libanus.
Tyrd i lawr o gopa Amana,
o ben Senir, sef copa Hermon c;
Tyrd i lawr o ffeuau'r llewod
a lloches y llewpard.
9Ti wedi cipio fy nghalon, ferch annwyl, fy nghariad.
Ti wedi cipio fy nghalon gydag un edrychiad,
un em yn dy gadwyn.
10Mae dy gyffyrddiad mor hyfryd, ferch annwyl, fy nghariad.
Mae dy anwesu cariadus gymaint gwell na gwin,
ac arogl dy bersawr yn well na pherlysiau.
11Mae dy gusan yn felys fy nghariad,
yn diferu fel diliau mêl.
Mae mêl a llaeth dan dy dafod,
ac mae sawr dy ddillad fel persawr Libanus.
12Fy merch annwyl, fy nghariad –
rwyt fel gardd breifat dan glo;
yn ffynnon gaiff neb yfed ohoni.
13Rwyt yn ardd baradwysaidd o bomgranadau,
yn llawn o'r ffrwyth gorau.
Gardd bersawrus hudolus
o henna hyfryd,
14nard a saffrwn,
sbeisiau pêr a sinamon
thus o wahanol fathau,
myrr ac aloes –
pob un o'r perlysiau drutaf.
15Ti ydy'r ffynnon yn yr ardd –
ffynnon o ddŵr glân gloyw
yn llifo i lawr bryniau Libanus.
Y ferch:
16Deffra, wynt y gogledd; tyrd, wynt y de!
Chwytha ar fy ngardd
i ledu sawr ei pherlysiau.
Tyrd i mewn i dy ardd fy nghariad,
a gwledda ar ei ffrwyth gorau.
Copyright information for CYM